Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Mai 2022
Amser:
09.30 -
11.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12818
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) Sam Rowlands AS (yn lle Laura Anne Jones AS) Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS Heledd Fychan AS |
Tystion: |
Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol, Rheoleiddio, Cymwysterau Cymru David Jones,
Cadeirydd, Cymwysterau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones AS a James Evans AS, ac roedd Sam Rowlands yn dirprwyo ar ran Laura. Roedd Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned Williams AS ar gyfer eitemau 5 a 6.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 yn y cyfarfod ar 16 Mehefin
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Cymwysterau Cymru - diweddariad ar flaenoriaethau [rhan 2]
4.1.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth
ddiweddaraf gan Gymwysterau Cymru am ddiwygiadau ôl 16 ac
arholiadau haf 2022.
5 Absenoldeb disgyblion - Sesiwn friffio
5.1 Cyn sesiwn
dystiolaeth lafar y Pwyllgor, cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan
Meilyr Rowlands.
6 Absenoldeb disgyblion - ystyried y dystiolaeth
6.1 Trafododd yr
Aelodau y wybodaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn friffio
flaenorol.
7 Gweithredu diwygiadau addysg allweddol - ystyried y dull gweithredu
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dulliau o weithredu mewn perthynas â’r diwygiadau addysg allweddol. Yn amodol ar fân newidiadau, cytunwyd ar y dull o weithredu.